Darganfod y gwir am newyddion ffug

Newyddion ffug, ôl-wirionedd, ffeithiau amgen. Mae’r eirfa sy’n disgrifio’r wybodaeth yr ydym ni’n derbyn am y byd o’n cwmpas wedi cael ei chwyldroi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mewn rhaglen arbennig ar S4C, nos Fawrth 2 Mai, Newyddion Ffug: Beth yw’r Gwir? mae’r newyddiadurwr Bethan Rhys Roberts yn mynd ar daith i ddarganfod mwy am y ffenomenon diweddar hwn, y mecanwaith y tu ôl iddo a sut y bydd, o bosibl, yn datblygu yn y dyfodol.

Fel newyddiadurwr sy’n cyflwyno Newyddion 9 ar S4C, mae Bethan yn cyfaddef bod newyddion ffug yn duedd sy’n peri pryder – yn enwedig gydag etholiad cyffredinol yn agos. “Mae newyddion ffug yn ffenomen sy’n bendant yn poeni rhywun ac mae o i’w gweld ym mhobman rŵan,” meddai Bethan sydd o Fangor yn wreiddiol.

“Ond er ei fod wedi dod i’r amlwg yn llygad y cyhoedd yn ystod ymgyrch arlywyddol Trump, y cwestiwn yw ble fydd o’n mynd nesa?” Drwy siarad ag arbenigwyr fel Guto Harri, sydd wedi gweithio fel newyddiadurwr ac ym myd cysylltiadau cyhoeddus ac Elena Cresci o bapur newydd The Guardian, sydd wedi gweithio fel gwiriwr ffeithiau, bydd Bethan yn ceisio dod o hyd i’r gwir y tu ôl i’r newyddion ffug.

“Pan oeddwn i’n gweithio fel gohebydd gwleidyddol yn San Steffan, doedd dim sôn am newyddion ffug gan mai spin oedd popeth. Beth sy’n wahanol rŵan yw bod pobl yn aml yn rhannu erthyglau

ffug cyn darllen y cynnwys. Os yw rhywbeth yn cael ei rannu 1000 o weithiau mae’n cael hygrededd hyd yn oed os nad yw’n wir - a dyna sy’n frawychus,” meddai Bethan.

Ond er mai yn America mae’r ffenomena wedi codi stêm, mi fydd Bethan yn gofyn ydy o wir yn mynd i effeithio arnom ni yma yng Nghymru?

Meddai Bethan, “Ydy gwendidau hanesyddol y wasg Brydeinig yn ein gwneud ni’n dir ffrwythlon i newyddion ffug? Mae un peth yn sicr. Mae’r twf ynddo’n dangos bod mwy o angen nag erioed i newyddiadurwyr fod yn ddiduedd ac yn gwbl saff o’u ffeithiau gan fod cymaint o ffynonellau sy’n awyddus i ddylanwadu ar beth sy’n cael ei ddweud - ac fe all y dylanwadau hynny fod yn bellgyrhaeddol.”

Discovering the truth about false news

False news, post truth, alternative facts. The vocabulary relating to the information we receive about the world around us has been revolutionised over the past year.

In a revealing programme on S4C, on Tuesday, 2 May, Newyddion Ffug: Beth yw’r Gwir? (False New: What’s the Truth?), journalist Bethan Rhys Roberts goes on a journey to find out more about this recent phenomenon, the mechanism behind it and how it will develop in the future.

As a journalist who presents Newyddion 9 on S4C, Bethan admits that false news is a worrying trend - especially with the general election around the corner. “Fake news is a worrying phenomenon and we’re seeing it everywhere now,” says Bethan who is originally from Bangor.

“But although it has emerged in the public eye during Trump’s presidential campaign, the question is where will it go next?”

By talking to experts such as Guto Harri, who has worked as a journalist and in PR, and Elena Cresci from The Guardian newspaper, who has worked as a fact checker, Bethan tries to find the truth behind the fake news.

“When I worked as a political correspondent in Westminster, there was no mention of fake news as spin was everything. What’s different now is that people often share fake articles before reading the content. If something is being shared 1000 times it has credibility even if it’s not true - and that’s what frightening.”

But although the phenomenon has come to the fore in America, Bethan asks if it will really affect us here in Wales?

Bethan says, “Does historical weaknesses in the British press make us fertile ground for fake news? One thing’s certain; its growth indicates it’s more important than ever for journalists to be

impartial and be completely certain of their facts because so many sources want to influence what is being said - and those influences may be far-reaching.”