Some of Wales's most iconic and legendary characters were born and bred in one of the UK's oldest and most loved soap operas, Pobol y Cwm.

As part of the S4C Legends season, the Cewri Cwmderi show will reveal which of the soap's characters have created the biggest impression since Pobol y Cwm first hit the screen in October 1974.

Sharp-witted TV presenter and BBC Radio 1 and BBC Radio Cymru DJ Huw Stephens will reveal which characters reached the top 10 of the all-time 'Cwmderi Greats' as voted by you the viewers.

With a village full of clips from the archive, and a street full of interviews with the series' actors, Huw will take us on a trip of a lifetime on Thursday, November 2, on S4C.

We'll have to wait until the programme to hear who came out on top, but in the meantime we asked 10 Pobol y Cwm related questions to Huw and discovered he'd love to star one day in Wales's biggest home-grown soap!

Who are your favourite Pobol characters over the years?

I grew up following the exploits of bad boy Barry John and later "our Mark", another bad lad. The Jones family were pretty special; Kath, Dyff, Stacey and Mark. I do just about remember another rogue too, Dic Deryn but, my most recent favourites are the girls at the salon!

Pobol is now 43 years old, have you always watched it?

Pobol y Cwm was a big part of the television experience in our family. I remember watching it in the evenings after school. Now I watch it on iPlayer!

If you had to join one family in the valley, which clan would it be?

Whichever family is running the Deri Arms at the time, I reckon. There would be enough to do; not too far to travel to work and I'd hear all the local gossip.

Lovable rogue Dic Deryn (Ifan Huw Dafydd) Pobol y Cwm villain
Lovable rogue Dic Deryn (Ifan Huw Dafydd) Pobol y Cwm villain

If you could resurrect one dead character and take them for a pint in the old Deri Arms pub, who would it be and what song would you choose on the jukebox?

I would bring Tush and Magi Post back to life for just one last pint in the Deri, or a coffee at Meic's café. I'd put a smile on their faces by playing a Tony and Aloma number on the jukebox to make them feel happy.

If you were given the onerous task of choosing one character to kill off in the soap, who would it be and how would you plot their demise?

It would have to be Garry Monk. He is always stirring up trouble for everyone else in the valley and pushes people to the brink. Colin would end his days in a fist fight.

Can soaps create heroes who give important messages to society?

Yes, sure. Pobol characters have provided examples of what is good and bad in society to viewers over the years. Storylines can often convey important messages about life to viewers.

What do you think of the theme tune?

It's like a hot water bottle. Songwriter Endaf Emlyn wrote it, didn't he?

This programme is part of the S4C Legends season, do you have a favourite Welsh legend?

Gelert's story is special - and the village of Beddgelert is a very special place

Do you dream of a cameo role in Pobol?

You bet. I'm hoping to have a slot on the local radio station Cwm FM, after my days on Radio 1.

And finally, what was it like to present the programme ?

Great. The soap has produced so many legends over the years.

Cewri Cwmderi, Thursday, November 2, 8.25pm, S4C English subtitles.

Pobol y Cwm, Monday-Friday 8pm, S4C, English and Welsh subtitles.

Sunday afternoons with on-screen English subtitles.

On demand: s4c.cymru; BBC iPlayer and other platforms.

DJ Radio 1 Huw Stephens yn ysu i ddatgelu Deg Uchaf Cewri Cwmderi

Mae rhai o gymeriadau mwyaf eiconig a chwedlonol Cymru wedi eu creu a'u magu yn un o operâu sebon hynaf ac amlycaf y Deyrnas Unedig, Pobol y Cwm.

Fel rhan o'r tymor Chwedlau ar S4C, fe fydd y rhaglen Cewri Cwmderi yn datgelu pa gymeriadau sydd wedi gadael yr argraff fwyaf ers i Pobol y Cwm ddechrau difyrru gwylwyr y wlad ym mis Hydref 1974.

O dan ofal y cyflwynydd teledu a'r DJ BBC Radio 1 a BBC Radio Cymru adnabyddus Huw Stephens, dyma gyfle i weld pa gymeriadau sydd wedi cyrraedd rhestr deg uchaf Cewri Cwmderi yn dilyn pleidlais gan wylwyr S4C.

Gyda digon o glipiau o'r archif, a chyfweliadau gydag actorion y gyfres, fe fydd Huw yn mynd â ni ar daith fythgofiadwy nos Iau, Tachwedd 2, ar S4C.

Fe fydd yn rhaid aros nes y rhaglen i gael clywed pwy ddaeth i'r brig, ond yn y cyfamser fe wnaethom ni ofyn deg cwestiwn am Pobol y Cwm i Huw Stephens, sy'n datgelu y byddai'n hoffi bod yn seren yn ffurfafen Pobol ryw ddydd!

Oes gennyt ti hoff gymeriadau yn y gyfres sebon dros y blynyddoedd?

'Nes i dyfu lan pan oedd Barry John yn fachgen drwg, wedyn fe ddaeth 'Mark ni'. Roedd y Jonesus mor dda; Kath, Dyff, Stacey a Mark. Rwy'n cofio Dic Deryn dipyn bach ond yn fwy diweddar, merched y salon yw'r ffefrynnau efallai!

Mae Pobol yn 43 oed bellach, ti'n ei gwylio hi ers yn blentyn?

Mae Pobol y Cwm yn rhan fawr o fywyd gwylio teledu gymaint ohonom ni. Rwy'n cofio gwylio hi yn y nos ar ôl ysgol. Nawr fi'n gwylio hi ar yr iPlayer!

Pe bait ti'n cael ymuno gydag un teulu o'r cwm, pa deulu fyddai hynny?

Pa bynnag deulu sy'n rhedeg y Deri Arms fi'n meddwl. Mae digon i 'neud 'na; dyw e ddim yn rhy bell i deithio i'r gwaith a chi'n cael y gossip lleol i gyd.

Actor Ioan Gruffudd appeared in Pobol y Cwm when he was a teenager
Actor Ioan Gruffudd appeared in Pobol y Cwm when he was a teenager

Pe bait ti'n cael atgyfodi un cymeriad marw i fynd am beint ag e neu hi yn yr hen Deri, pwy fyddai hwnnw neu honno a beth fyddet ti'n dewis ar y jiwcbocs?

Byddwn i'n dod â Tush a Magi Post 'nôl i gael un peint bach yn y Deri, neu baned yng Nghaffi Meic. Byddwn i'n rhoi rhywbeth neis fel Tony ac Aloma ar y jiwcbocs i wneud iddyn nhw deimlo'n hapus.

Pe bait ti'n gorfod cael y dasg o ddewis un cymeriad i 'ladd' o'r gyfres, pwy fyddai hi neu fe a sut byddet ti'n plotio'r diwedd?

Garry Monk falle. Mae e'n dod â chymaint o drwbl i Gwmderi, ac yn pardduo'r cwm gyda'i giamocs. Fist fight gyda Colin.

Oes modd i sebonau greu arwyr go iawn sy'n rhoi negeseuon pwysig i gymdeithas?

Oes, yn sicr. Mae cymeriadau PyC wedi bod yn esiamplau da a ddim mor dda ar hyd y blynyddoedd. Ond mae negeseuon pwysig am fywyd bob un ohonom yn cael eu cyfleu ar y sgrin.

Ti'n hoffi'r theme tune?

Mae fel potel dŵr poeth. Endaf Emlyn sgwennodd hi, ie?

Mae Cewri Cwmderi yn rhan o fis Chwedlau S4C, oes 'da ti hoff chwedl Gymreig a pham?

Mae stori Gelert yn un arbennig 'yn dydi - ac mae Beddgelert yn lle arbennig iawn.

Ti'n ysu am rôl cameo yn Pobol?

Ydw. Fi'n gobeithio cael slot ar Cwm FM, ar ôl i fy nyddiau ar Radio 1 ddod i ben.

Ac yn olaf, sut brofiad oedd cyflwyno'r rhaglen?

Difyr iawn. Mae Pobol wedi creu cymaint o gymeriadau chwedlonol dros y blynydde'.

Cewri Cwmderi, nos Iau, Tachwedd 2, 8.25pm, S4C, isdeitlau Saesneg.

Pobol y Cwm, Llun-Gwener, 8pm, S4C, isdeitlau Cymraeg a Saesneg.

Bob prynhawn Sul gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrin.

Ar alw: s4c.cymru; BBC iPlayer a llwyfannau eraill.