Carwyn Jones: Beirniadaeth o Corbyn am Rwsia yn 'annheg'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Carwyn Jones yn dweud fod ganddo "hyder" yn yr awdurdodau

Mae arweinydd Llafur y DU, Jeremy Corbyn wedi'i drin yn "annheg" yn sgil yr ymateb i wenwyno cyn-ysbïwr yng Nghaersallog, yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Daeth Mr Corbyn a'i lefarydd, Seumas Milne, dan y lach am eu hymateb i benderfyniad Theresa May i ddiarddel 23 o ddiplomyddion Rwsia.

Dywedodd Carwyn Jones ei fod yn "gefnogol" o'r hyn mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud, ond nad oedd yr ymateb i Mr Corbyn yn deg.

Ar ôl yr ymateb i Mr Corbyn, dywedodd llefarydd Llafur ar amddiffyn, Nia Griffith AS, bod ei phlaid yn derbyn mai "Rwsia sy'n gyfrifol" am wenwyno Sergei Skripal a'i ferch.

'Annheg'

Mae Mr Jones eisoes wedi datgan ei gefnogaeth i Mrs May ar ôl iddo alw ei hymateb i Rwsia yn "gadarn a chymesur".

Yn siarad ddydd Iau, dywedodd ei fod yn "gefnogol" o'r hyn mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud wrth ddelio â'r achos.

Ychwanegodd ei fod yn teimlo fod arweinydd Llafur y DU, Jeremy Corbyn wedi'i drin yn "annheg" a'i fod wedi dweud yn "glir ei fod yn condemnio'r hyn a ddigwyddodd".

Disgrifiad o’r llun,
Mae Jeremy Corbyn bellach wedi rhyddhau datganiad ar Facebook yn galw i'r awdurdodau yn Rwsia "gael eu dal i gyfrif ar sail y dystiolaeth"

Ddydd Mercher dywedodd llefarydd ar ran Jeremy Corbyn, Seumas Milne, nad oedd "tystiolaeth gadarn mai Rwsia oedd yn gyfrifol am y gwenwyno".

Dywedodd Mr Milne nad oedd Llafur yn gwrthwynebu ymateb Mrs May, ond roedden nhw'n rhybuddio i gymryd pwyll cyn dod i gasgliad pendant ynglŷn â phwy oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.

Fe wnaeth nifer o ASau Llafur anghytuno gyda'r ymateb, yn eu plith AS De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty - wnaeth alw am atal trwydded sianel deledu o Rwsia yn gynharach yn yr wythnos - AS Islwyn, Chris Evans, ac AS Aberafan, Stephen Kinnock.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth y DU
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r AS Llafur a llefarydd yr wrthblaid ar amddiffyn, Nia Griffith wedi dweud fod Llafur yn derbyn mai "Rwsia sy'n gyfrifol" am yr ymosodiad yng Nghaersallog

Ar raglen Today ar Radio 4 fore Iau, dywedodd Ms Griffith bod ei phlaid yn derbyn mai "Rwsia sy'n gyfrifol" am y gwenwyno.

Ond ychwanegodd AS Llanelli nad oedd modd iddi siarad dros Mr Milne yn dilyn ei sylwadau ef.

Dywedodd Ms Griffith: "Rydym yn derbyn beth ddywedodd y prif weinidog - mae'r math yma o sylwedd sy'n effeithio ar y system nerfol yn un soffistigedig, a Rwsia sy'n gyfrifol am yr ymosodiad yma.

"Felly rydym yn llwyr gefnogi mesurau'r llywodraeth i ddiarddel 23 o ddiplomyddion Rwsia o'r DU."

Mae Rwsia yn gwadu bod ag unrhyw ran yn y digwyddiad o wenwyno ac yn dweud eu bod yn gweithio ar fesurau i ymateb.

'Ymosodiad erchyll'

Ddydd Mercher, roedd Mr Milne wedi dweud: "Pwy bynnag wnaeth gyflawni'r ymosodiad, maen nhw'n gyfrifol am ymosodiad erchyll ac anystyriol mewn ardal gyhoeddus."

Dywedodd hefyd fod Rwsia yn "uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gyfrifol" ond fod "euogrwydd yn bodoli mewn nifer o ffyrdd gwahanol".

Ychwanegodd Ms Griffith ar raglen Today fod safbwynt y blaid bellach "yn gliriach" ar ôl i Mr Corbyn ryddhau datganiad nos Fercher.

Ffynhonnell y llun, EPA/ Yulia Skripal/Facebook
Disgrifiad o’r llun,
Mae Sergei Skripal, 66, a'i ferch Yulia, 33, mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty

Ar ôl condemnio'r ymosodiad yn San Steffan, fe wnaeth Mr Corbyn alw i'r awdurdodau yn Rwsia "gael eu dal i gyfrif ar sail y dystiolaeth, a dylai ein hymateb fod yn bendant ac yn gymesur".

Dywedodd Ms Griffith fod y datganiad yn ei gwneud hi'n "glir ein bod ni'n llwyr gefnogol o ymateb y llywodraeth, oherwydd mae hi'n amlwg ein bod ni'n derbyn beth mae'r prif weinidog wedi'i ddweud, mai Rwsia sy'n gyfrifol".

Pan ofynnwyd iddi pam nad oedd Mr Corbyn wedi datgan ei gefnogaeth i'r llywodraeth yn Nhŷ'r Cyffredin, ymatebodd drwy ddweud bod "ei safbwynt wedi cael ei wneud yn glir mewn datganiadau".

"Y peth pwysig yw mai dyma ein safbwynt nawr, ac fe allai ei sicrhau chi mai dyma safbwynt y fainc flaen."