Sêr Hollywood y tu ôl i gynllun buddsoddi CPD Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Ryan Reynolds a Rob McElhenney
Disgrifiad o’r llun,

Ryan Reynolds a Rob McElhenney

Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi cyhoeddi enwau dau actor adnabyddus sydd â diddordeb mewn buddsoddi yn y clwb.

Yr actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney yw'r ddau y tu ôl i gynllun i brynu'r clwb, meddai datganiad nos Fercher.

Mae Reynolds wedi ennill sawl gwobr am ei waith, sy'n cynnwys serennu yn y ffilmiau Deadpool.

Mae McElhenney yn fwyaf adnabyddus am greu'r rhaglen gomedi It's Always Sunny in Philadelphia.

Ffynhonnell y llun, Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Ryan Reynolds yn tynnu coes ar Twitter nos Fercher - ond tybed a yw'n taflu goleuni ar ei ddiddordeb yn Wrecsam?

Dywedodd y clwb eu bod wedi gallu datgelu pwy ydy'r buddsoddwyr posib ar ôl i gefnogwyr, sy'n berchen y clwb ar hyn o bryd, gefnogi'r syniad.

Dywedodd Spencer Harris, cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr, ei fod yn disgwyl y bydd y cefnogwyr yn cynnal pleidlais arall o "fewn wythnosau yn hytrach na misoedd" ar fanylion unrhyw gytundeb.

Ar hyn o bryd, meddai, mae'r trafodaethau mewn cyfnod cychwynnol.

"Fel mae pawb yn ymwybodol y gymuned sydd yn berchen ar y clwb, felly mae'r manylion wedi dod yn gyhoeddus yn gynt nag sy'n arfer digwydd...

"Fe wnaeth y trafodaethau ddechrau gyda'u cynrychiolwyr, yn siarad am y clwb, ond rŵan yn dilyn y cyfarfod cyffredinol nos Fawrth, rydym yn gallu dechrau trafodaethau mwy manwl ynglŷn â beth allai cytundeb olygu.

"Mae yna dipyn o ffordd i fynd ac ar ddiwedd y dydd y cefnogwyr fydd yn penderfynu cymeriad y clwb i'r dyfodol."

Pleidleisiodd cyfanswm o 1,223 o aelodau yn y cyfarfod cyffredinol arbennig ddydd Mawrth - gyda dim ond 31 yn erbyn.

Ychwanegodd datganiad nos Fercher y byddai'r actorion yn rhannu eu "gweledigaeth" ar gyfer y clwb yn y man.

Y gred yw bod y ddau eisiau buddsoddi £2m yn y clwb ar unwaith.